Mae'r dudalen hon yn eich tywys ar fyr o eiriau drwy cynnwys Geirfan, gan ddefnyddio lluniau wedi'u labelu i ddangos trefniant y
  geiriadur, ac i esbonio ystyr symbolau.
      
         
        
          -  Cliciwch/tapiwch i fynd adref.
-  Teipiwch air Cymraeg yma i chwilio amdano yn y geiriadur.
-  Rhaid clicio/tapio'r botwm i ddechrau chwilio.
-  Botymau sy'n arwain at y tudalenau
            adref, cyflwyno Geirfan, defnyddio Geirfan, a'r mynegai.
 
      
         
        
    -  Cliciwch/Tapiwch er mwyn chwarae clip sain.
-  Cliciwch/Tapiwch er mwyn agor blwch gwybodaeth
      defnyddiol sy'n berthnasol i'r eitem cyfagos. (Cliciwch/Tapiwch unrhywle ar y dudalen i gau'r
      blwch eto).
-  Mae'r symbol yn dangos nodyn sy'n eich
      rhybyddio ynglŷn â gwallau iaith cyffredin.
-  Mae'r triongl yn berthynol at
      system lliwiau'r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaetholl Ar ochr dde'r
      triongl, rhoddir graddau anhawster y Common European Framework of Reference for Languages
      (CEFR), a'r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.
 
    
  
  
  
   
      
      
      
        -  Cliciwch/tapiwch i glywed
          person gydag acen o'r De yn ynganu'r prifair.
         
-  Cliciwch/tapiwch i glywed
          person gydag acen o'r Gogledd yn ynganu'r prifair.
-  Canllawiau bras iawn ydy'r rhain, sy'n defnyddio confensiynnau
          sillafu'r Saesneg. Dydy hi ddim bob amser yn bosib cynrychioli ynganiad y Gymraeg yn y
          ffordd hon, fodd bynnag, felly ni ddylid eu defnyddio yn lle'r clipiau sain neu'r
          trawsgrifiad ffonetig a roddir oddi tano.
- 
          Mae'r blwch gwybodaeth sydd ynghlwm â phob trawsgrifiad GFfR yn cynnwys dolen sy'n
          cysylltu â tudalen Wikipedia Saesneg sy'n trafod y GFfR.
 
    
   
      
        -  Mae pob cofnod yn y geiriadur yn cynnwys o leiaf un adran
          rhan ymadrodd. Cyflwynir y rhannau ymadrodd mewn blychau ar wahân.
-  Rhoddir rhifau ar diffiniadau
          (14a) pan fo adran rhan ymadrodd yn cynnwys mwy nag un prif ystyr. Ni roddir rhifau (14b)
          pan fo un prif ystyr yn unig.
-  Mae;r labelau hyn yn
          cyflwyno gwybodaeth megis sut y defnyddir y prifair gyda geiriau eraill (15a), neu'r
          arddull ieithyddol y mae'r prifair yn perthyn iddi (15b).
-  Nodyn sy'n dilyn y diffiniad, yn rhoi
          gwybodaeth ynglŷn ag agweddau o'r ystyr, megis cyd-destun ei defnydd, neu pynciau y cysylltir
          yn aml â'r ystyr.
 
    
   
      
      
        -  Ymddengys yr adran hon ar
          ddiwedd y rhan fwyaf o gofnodion y geiriadur. Mae'n cynnwys gwybodaeth pellach am y
          prifair. Cliciwch/tapiwch ar y saethau trionglog ar yr ochr chwith er mwyn ehangu'r blwch
          perthnasol.
 
    
   
      
        -  Mae blwch "in use" yn disgrifio rhyw
          agwedd o ddefnydd y prifair.
-  Pan fo cofnod yn y geiriadur am air sy'n
          pwysig i'r drafodaeth, rhoddir dolen i fynd a chi at y cofnod.
 
    
   
      
        -  Dyma rhestr o dermau sy'n cynnwys y
          brifair.
-  Rhestr o idiomau ac ymadroddion
          Cymraeg sy'n cynnwys y brifair.
 
    
   
      
        -  Gwybodaeth ynglyn â tharddiad y
          prifair.
-  Geiriau sy'n
          rhannu gwreiddiau â'r prifair. Geiriau Cymraeg a geir yn "Family", a geiriau mewn amryw o
          ieithoedd a geir yn "Connections".
-  Geiriau Cymraeg sy'n rhannu thema
          neu bwnc gyda'r prifair.
-  Geiriau Cymraeg ag ystyr
          tebyg
          i'r prifair
          neu ystyr sy'n wyrthwynebol i'r prifair.
 
      
   
        
          -  Adran sy'n rhestri
            ffurfiau ar y prifair, er enghraifft treigladau, ffurfiau benywaidd/gwrywaidd, ffurfiau
            lluosog, a.y.y.b.
-  Weithiau, mae'n
            ddefnyddiol
            ychwanegu nodyn sy'n esbonio rhyw agwedd anodd neu annisgwyl ar ffurfiau'r prifair.